
Podlediad am fywydau'r bobl anhygoel sy'n dysgu, neu wedi dysgu, yr iaith Gymraeg.
A podcast about the amazing people who are learning, or have learnt, the Welsh language.
Cyflwynydd/presenter: Richard Nosworthy
Episodes

Aug 14, 2025
Aug 14, 2025
32 min
Y mis yma ein gwestai ni ydy Natasha Baker. Un o Birmingham yn wreiddiol, mae hi wedi meistroli'r Ffrangeg ac wedi byw yn Ffrainc.
Ers symud i Gymru mae hi wedi dysgu Cymraeg a sefydlu meithrinfa Gymraeg Wibli Wobli yng Nghasnewydd.
Yn ein sgwrs rydyn ni'n trafod sut i helpu plant i siarad ieithoedd gwahanol, a'r her o ail-adeiladu ei busnes ar ôl tân mawr.
Recordiais i'r sgwrs gyda Natasha ym mis Hydref 2024.
Tudalen Facebook Meithrinfa Wibli Wobli
***
Cyflwynydd: Richard Nosworthy
Beth dych chi'n meddwl o'r pennod yma? Gadewch sgôr (rating), anfonwch ebost: helo@richardnosworthy.cymru neu dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon a rhannwch eich barn yno.
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts
Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.

Jul 16, 2025
Jul 16, 2025
40 min
Y tro yma mae'r awdur a darlledwr Mike Parker yn ymuno â ni. Mae Mike yn byw yng Nghanolbarth Cymru ers 2000 ac mae e wedi cyhoeddi sawl llyfr am Gymru a thu hwnt, megis Map Addict, On the Red Hill, ac All the Wide Border.
Yn ein sgwrs rydyn ni'n trafod sut a pham y dysgodd e Gymraeg, ysgrifennu'r Rough Guide to Wales a'i brofiad o sefyll fel ymgeisydd gwleidyddol.
Nes i recordio gyda Mike ym mis Hydref 2024.
***
Cyflwynydd: Richard Nosworthy
Beth dych chi'n meddwl o'r pennod yma? Anfonwch ebost: helo@richardnosworthy.cymru neu dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon a rhannwch eich barn yno.
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Youtube, Pocket Casts
Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.

Jun 18, 2025
Jun 18, 2025
40 min
Helo eto! Y tro yma dwi'n siarad gyda Sara Peacock. O Loegr yn wreiddiol (ond gyda theulu yng Nghymru), priododd hi fenyw o Eryri a symudon nhw i Gaerdydd.
Dechreuodd hi ddysgu Cymraeg, ac mae'r iaith wedi agor drysau i swyddi newydd. Heddiw mae hi'n gweithio i S4C, ac yn ein sgwrs mae hi'n esbonio sut mae'r sianel yn cefnogi siaradwyr Cymraeg newydd.
Ewch i wefan S4C er mwyn gweld yr holl rhaglenni ac adnoddau i ddysgwyr. Mae hwn yn cynnwys cylchlythyr dysgu Cymraeg a chyfrifon arbennig ar y cyfryngau cymdeithasol.
***
Cyflwynydd: Richard Nosworthy
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Pocket Casts
Dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon a rhowch wybod i fi beth dych chi'n meddwl am y pennod yma.
Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.

May 21, 2025
May 21, 2025
42 min
Croeso'n ôl!
I ddechrau cyfres newydd, rwy'n siarad gydag Israel Lai. Mae Israel yn dod o Hong Kong yn wreiddiol, ond heddiw mae e'n byw ym Manceinion.
Yn y pennod yma, rydyn ni'n clywed am ei brofiadau o symud i Loegr, dysgu Cymraeg a nifer o ieithoedd eraill, ei sianel Youtube, a chyfansoddi cerddoriaeth.
Yn y sgwrs:
- Y llyfr mae Israel yn siarad amdano ydy Lleidr Penffordd gan Ifor Owen
- Allbwn ieithyddol Israel 'Rhapsody in Lingo' - ar ei Wefan, sianel Youtube ac Instagram
- Gwefan cerddorol Israel
(Prynais i fiwsig newydd y podlediad o Sylvia Strand: www.screentales.co.uk)
Cyflwynydd: Richard Nosworthy
***
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
Dilynwch Podlediad Hefyd ar Mastodon.
Os hoffech chi gymryd rhan yn y podlediad, cysylltwch â fi trwy'r wefan.
