Hefyd

Rodolfo Piskorski, Dinesydd Cymraeg o Frasil | Pennod 6

September 21, 2021

Ein gwestai ni y tro yma ydy Rodolfo Piskorski.

Symudodd e i Gymru o Frasil, ac mae e wedi bod yn y newyddion am fod y person cyntaf i gymryd y prawf dinasyddiaeth Prydeinig (British citizenship test) yn Gymraeg!

Erbyn hyn, mae Rodolfo yn astudio ieithoedd a dysgu Portiwgaleg i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae e wedi creu gwefan a fideos i helpu dysgwyr eraill - mae mwy o wybodaeth am hyn, a lluniau o Rodolfo, ar y wefan.

Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadael adolygiad! > Y PodApple PodcastsSpotifyGoogle PodcastsPocket Casts

Podbean App

Play this podcast on Podbean App