Episodes
Thursday Mar 17, 2022
Grant Peisley, Datblygwr Ynni a Thafarn Cymunedol o Awstralia | Pennod 11
Thursday Mar 17, 2022
Thursday Mar 17, 2022
Y mis yma rydyn ni'n clywed stori siaradwr Cymraeg o Awstralia, sy'n byw yn ardal Caernarfon, Gwynedd erbyn hyn.
Mae Grant Peisley wedi cyfrannu'n fawr at gymunedau Cymreig - nid yn unig trwy ddysgu'r iaith, ond hefyd trwy prosiectau cymdeithasol ac amgylcheddol.
Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i.
Cyflwynydd: Richard Nosworthy
***
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
Thursday Feb 17, 2022
Dr Ben Ó Ceallaigh, Arbenigwr ac Ymgyrchydd Iaith o Iwerddon | Pennod 10
Thursday Feb 17, 2022
Thursday Feb 17, 2022
Y tro yma rwy'n siarad gyda'r arbenigwr ac ymgyrchydd iaith, Dr Ben Ó Ceallaigh, sy'n dod o Iwerddon yn wreiddiol.
Pan roedd e'n ifanc, dechreuodd e siarad Gwyddeleg ar ôl dysgu mwy am hanes ei wlad. Symudodd e i Aberystwyth er mwyn gweithio yn y Brifysgol yno, ac wrth gwrs, dysgodd e Gymraeg hefyd.
Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i.
Cyflwynydd: Richard Nosworthy
***
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
Thursday Jan 20, 2022
David Clubb, Amgylcheddwr ac Arbenigwr Technoleg | Pennod 9
Thursday Jan 20, 2022
Thursday Jan 20, 2022
David Clubb yw fy ngwestai y tro yma.
Mae Dave yn dod o ardal Penybont ar Ogwr yn wreiddiol, ond heddiw mae e’n byw yng Nghaerdydd. Mae e’n gadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, ac yn gweithio fel un o bartneriaid y cwmni Afallen.
Mae e wedi dysgu Cymraeg, yn ogystal â sawl iaith arall, ac mae e wedi byw yn Sbaen, Denmarc ac India.
Trafodon ni ei waith amgylcheddol a’i ddiddordeb mewn technoleg.
Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i.
Cyflwynydd: Richard Nosworthy
***
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
Wednesday Nov 17, 2021
Liz Day, Podlediwr a Pherfformiwr Syrcas | Pennod 8
Wednesday Nov 17, 2021
Wednesday Nov 17, 2021
Liz Day yw'r gwestai y tro yma.
Mae Liz yn dod o Swydd Amwythig, Lloegr. Symudodd hi i Gaerdydd, ble mae hi wedi gweithio fel newyddiadurwr i Wales Online.
Erbyn hyn, mae hi'n gwneud nifer o bethau diddorol - sy'n cynnwys sgiliau syrcas, a gwneud blog a phodlediad ei hun, Liz Learns Welsh.
Mae mwy o wybodaeth a lluniau ar fy ngwefan i.
Cyflwynydd: Richard Nosworthy
***
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
Dilynwch Podlediad Hefyd ar Twitter
Thursday Oct 21, 2021
David Thomas, Dysgwr y Flwyddyn 2021 | Pennod 7
Thursday Oct 21, 2021
Thursday Oct 21, 2021
Y gwestai y tro yma ydy David Thomas.
Ennillodd David wobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn eleni, yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn wreiddiol o Gaerdydd, roedd e'n byw yn Lloegr am flynyddoedd, ond mae e wedi symud yn nôl i Gymru gyda'i ŵr.
Mae e'n rhedeg y cwmni Jin Talog ac mae e'n awyddus iawn i ddefnyddio Cymraeg yn y gymuned.
Ewch i fy ngwefan i weld lluniau a geirfa'r pennod yma.
Cyflwynydd: Richard Nosworthy
***
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadewch adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
Tuesday Sep 21, 2021
Rodolfo Piskorski, Dinesydd Cymraeg o Frasil | Pennod 6
Tuesday Sep 21, 2021
Tuesday Sep 21, 2021
Ein gwestai ni y tro yma ydy Rodolfo Piskorski.
Symudodd e i Gymru o Frasil, ac mae e wedi bod yn y newyddion am fod y person cyntaf i gymryd y prawf dinasyddiaeth Prydeinig (British citizenship test) yn Gymraeg!
Erbyn hyn, mae Rodolfo yn astudio ieithoedd a dysgu Portiwgaleg i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae e wedi creu gwefan a fideos i helpu dysgwyr eraill - mae mwy o wybodaeth am hyn, a lluniau o Rodolfo, ar y wefan.
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd - a gadael adolygiad! > Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
Thursday Aug 19, 2021
Geordan Burress, Ffan Cerddoriaeth Cymraeg o Cleveland, Ohio | Pennod 5
Thursday Aug 19, 2021
Thursday Aug 19, 2021
Geordan Burress yw ein gwestai ym mhennod 5. Mae Geordan yn byw yn Cleveland, Ohio, UDA, a dechreuodd hi ddysgu Cymraeg ar ôl darganfod yr iaith trwy gerddoriaeth Gruff Rhys.
Yn y sgwrs mae Geordan yn esbonio sut mae hi wedi dysgu Cymraeg ar lein, a siaradodd hi am ei hymweliad â Chymru.
Gallwch chi weld lluniau o daith Geordan i Gymru yma.
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
Thursday Aug 12, 2021
Rosa Hunt, Gweinidog Capel o Donteg a Malta | Pennod 4
Thursday Aug 12, 2021
Thursday Aug 12, 2021
Ein gwestai ni y tro yma ydy’r Parchedig Doctor Rosa Hunt – Gwenidog Capel Salem, Tonteg ger Pontypridd.
Mae Rosa yn dod o ynys Malta yn wreiddiol. Fel Cymru, mae Malta yn wlad fach gyda iaith ei hun yn ogystal â Saesneg.
Siaradon ni am ei phlentyndod ym Malta, sut mae statws Malteg wedi newid ers ennill annibyniaeth, a’r heriau a phleserau o ddysgu Cymraeg a symud i Gymru.
Tanysgrifiwch i bodlediad Hefyd: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
Thursday Jun 17, 2021
Stephen Rule, y 'Doctor Cymraeg' o Sir y Fflint | Pennod 3
Thursday Jun 17, 2021
Thursday Jun 17, 2021
Y tro yma dwi'n siarad gyda Stephen Rule, y dyn sy'n rhedeg y cyfrif Twitter poblogaidd, y Doctor Cymraeg, sy'n rhoi cyngor i ddysgwyr.
Yn y pennod yma rydyn ni'n siarad am sut dysgodd e Gymraeg, a sut gallwch chi datblygu hyder i siarad yr iaith yn gyhoeddus.
Tanysgrifiwch: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts
Thursday May 20, 2021
Angharad Jones, Athrawes o Fedwas | Pennod 2
Thursday May 20, 2021
Thursday May 20, 2021
Yn yr ail bennod, rwy'n siarad gydag Angharad Jones. Mae Angharad yn athrawes o Fedwas ger Caerffili. Mae hi’n gweithio mewn ysgol gynradd Saesneg, ond gan bod y Gymraeg yn fwyfwy pwysig yn y cwricwlwm, mae hi’n gwneud cwrs o’r enw ‘Cymraeg mewn blwyddyn’ er mwyn helpu’r plant.
Manylion a geirfa: https://richardnosworthy.cymru/2021/05/20/podlediad-hefyd-pennod-2-angharad-jones/
Tanysgrifiwch: Y Pod, Apple Podcasts, Spotify, Google Podcasts, Pocket Casts